Eisteddfod yr Urdd 2017

(English below)

Yr wythnos yma rydyn ni yn llwytho’r tryciau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, sydd ym Mhen-Y-Bont ar Ogwr eleni. Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop gyda thros 15,000 o bobl ifanc yn cystadlu mewn cystadlaethau mewn cerddoriaeth, llenyddiaeth a pherfformio. Yn ogystal â’r cystadlaethau fe fydd cerddoriaeth byw, stondinau crefft a bwyd, a gweithgareddau at ddant pawb o gwmpas y Maes!

Fe fyddwn ni yn darparu systemau sain fach ac offer AV ar gyfer llwyfannau o amgylch y Maes, yn ogystal ag system PA a thechnegydd ar gyfer y Pafiliwn a’r Llwyfan Perfformio. Unwaith eto fe fydd yna ‘Gig I Gloi’r Eisteddfod’ ar noswaith Sadwrn yr Eisteddfod efo Chroma, Fleur-De-Lys, Alys Williams, a Swnami yn chwarae ar y Llwyfan Perfformio.

Pob lwc i bawb sydd yn cystadlu!

_________________________________________________________________________________________________________

This week we are loading our trucks and setting off once again for the Urdd Eisteddfod, which this year takes place in Bridgend. The Urdd Eisteddfod is one of Europe’s biggest youth touring festivals with over 15,000 young people competing in musical, literary and performance based competitions. As well as the competitions, there will be live music, craft and food stalls, and activities to suit all tastes across the Eisteddfod Maes.

We will be supplying a number of small sound systems and AV equipment for stages around the Maes, as well as a PA system and engineers for the main Pavilion and the Outdoor Performance stage. Once again there will be a ‘Big Gig’ on Saturday evening, which will see Chroma, Fleur-De-Lys, Alys Williams, and headliners Swnami play the Outdoor Performance stage.

Good luck to all competitors!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *